HelenPUGHMai 13eg 2026. Yn dawel wedi pob gofal yng Nghartref Nyrsio Bodawen, yn 97 mlwydd oed. Gynt o 60, Heol Newydd, Porthmadog a Garndolbenmaen. Priod ffyddlon a chariadus y diweddar David Ronald (Ronnie); Mam dyner a gofalus Eifion, Eryl ac Arwel; Mam yng nghyfraith annwyl i Meryl a Bethan; Nain hwyliog a charedig Caron a Sioned, Emma a'r diweddar Gavin; hen Nain i Elwyn, Enola, Jac a Lily Elen; chwaer driw Gwen a'r diweddar Goronwy, Arthur, Wil, Olwen, Nantw a Dick; chwaer yng nghyfraith Kathleen ac Elen; modryb hoff ei nithoedd a'i neiaint. Cymydog a ffrind gyfeillgar i lawer.
Angladd dydd Sadwrn 30ain o Fai 2026. Claddedigaeth breifat i'r teulu yn unig ym mynwent Bethel, Golan. Cynhelir gwasanaeth cyhoeddus o ddiolchgarwch o fywyd Helen yng Nghapel y Porth, Porthmadog am 1.00yp.
Blodau'r teulu yn unig. Derbynnir rhoddion yn ddiolchgar pe dymunir er cof am Helen tuag at Cronfa staff a phreswilwyr Cartref Bodawen, tîm nyrsys cymunedol a Chapel Salem trwy law yr ymgymerwyr.
Heol Dulyn, Tremadog,
Gwynedd LL49 9RH
01766512091
post@pritchardgriffiths.co.uk
Keep me informed of updates